Folkklassieker du jour: Tro, tro, tro

Het is St. Davidsdag, de dag van de patroonheilige van waarschijnlijk het liefste land van (West-)Europa, Cymru oftewel Wales. Daarom in Cymraeg het lied naar de tekst van Prediker 3:1-15 van Pete Seeger door Mary Hopkin, een van haar vroegste opnamen.
Ik kon Those were the days niet uitstaan, dat was toch geen lied voor nota bene een leeftijdsgenote, het leven moest nog beginnen. Je kunt wel bedenken dat zij nu afstand neemt van die tekst en inderdaad; dit zijn de dagen, zegt zij. Je bent nooit zo oud als wanneer je jong bent (denk daar maar over na).
Er is geen tekst te vinden maar u heeft vast de bijbel wel bij de hand.

Nou, vooruit, ik ben de kwaadste niet, en ik heb de Welshe bijbel bij de hand (de dame heeft in dat land gewerkt), hier de verzen in Cymraeg. Van Prediker dan, u komt er verder wel uit. Heel eerlijk gezegd kan ik slechts een gezongen regel terugvinden. Tenzij u Cymraeg beheerst wens ik u succes.

1 Mae amser wedi ei bennu i bopeth,

amser penodol i bopeth sy’n digwydd yn y byd:

2 Amser i gael eich geni ac amser i farw,

Amser i blannu ac amser i godi beth blannwyd;

3 Amser i ladd ac amser i iacháu,

Amser i chwalu rhywbeth ac amser i adeiladu;

4 Amser i wylo ac amser i chwerthin,

Amser i alaru ac amser i ddawnsio;

5 Amser i daflu cerrig i ffwrdd ac amser i gasglu cerrig,

Amser i gofleidio ac amser i beidio cofleidio;

6 Amser i chwilio ac amser i dderbyn fod rhywbeth ar goll,

Amser i gadw rhywbeth ac amser i daflu i ffwrdd;

7 Amser i rwygo ac amser i bwytho,

Amser i gadw’n dawel ac amser i siarad;

8 Amser i garu ac amser i gasáu;

Amser i ryfel ac amser i heddwch.

9 Felly beth mae’r gweithiwr yn ei ennill ar ôl ei holl ymdrech?
Duw ac amser

10 Dw i wedi ystyried yr holl bethau mae Duw wedi eu rhoi i bobl eu gwneud: 11 Mae Duw’n gwneud i bopeth ddigwydd yn berffaith ar yr amser iawn. Mae hefyd wedi gwneud pobl yn ymwybodol o’r tragwyddol, ond dydy pobl ddim yn gallu darganfod popeth mae Duw’n bwriadu ei wneud yn ystod eu bywydau.

12 Felly des i’r casgliad mai’r peth gorau all pobl ei wneud ydy bod yn hapus a mwynhau eu hunain tra byddan nhw byw. 13 Rhodd Duw i bawb ydy iddyn nhw fwyta ac yfed a mwynhau eu holl weithgareddau.

14 Des i’r casgliad hefyd fod popeth mae Duw yn ei wneud yn aros am byth: Does dim modd ychwanegu ato, na thynnu dim oddi wrtho. Mae Duw wedi gwneud pethau fel hyn er mwyn i bobl ei barchu.

15 “Mae popeth a fu yn dal i fod,

a popeth fydd fel popeth sydd.

Mae Duw’n gwneud eto

beth sydd wedi mynd heibio.”